Yn y diagram i'r chwith dynodir llwybyr ble y gwelir eclips llwyr, ceir yr ardal ble bydd yr eclips yn para am yr hiraf i'r de ddwyrain o Wlad yr Ia ym Mor Nowy. O Aberystwyth gellir gweld eclips rhannol. Er fod yr eclips yn un rhannol ceir i fyny at 90% o wyneb yr Haul ei orchuddio gan y Lleuad, ceir uchafswm yr eclips am 09:29 amser lleol. Cychwynnir yr eclips a'r chyffyrddiad gyntaf a'r Lleuad am 08:34 a'r chyffyrddiad olaf am 10:38 amser lleol. Isod gwelir animeiddiad o'r ardaloedd y gellir gweld yr eclips.